Robert A Winstanley BDS (Caeredin) Dentist
GDC: 67808
Daw Robert yn wreiddiol o Bolton, Swydd Gaerhirfryn lle roedd ei
dad hefyd yn ddeintydd. Ar ôl graddio o Brifysgol Caeredin yn 1992,
fe weithiodd yn Adran Llawfeddygaeth y Geg yng Nhaeredin, ac yna
aeth ymlaen i weithio fel Uwch Swyddog yn Inffyrmari Brenhinol
Manceinion lle cychwynodd ei dddiddordeb mewn mewnblaniadau
deintyddol.
Mae Robert wedi bod yn Neintyddfa Rhuthun ers 1998 ac wedi
cyfuno swydd glinigol yn yr Adran Orthodontig yn Ysbyty Maelor
Wrecsam am gyfnod o wyth mlynedd yn ystod yr amser hyn. Mae o
bellach yn darparu triniaeth orthodontig ar gyfer cleifion yn
Rhuthun a’r ardaloedd cyfagos. Mae o wedi bod yn Hyfforddwr
Galwedigaethol, sy'n golygu mentora deintyddion sydd newydd
gymhwyso yn ystod eu blwyddyn gyntaf ar ôl graddio.
Mae Robert wedi cwblhau nifer o gyrsiau ôl-raddedig. Yn 2003 fe
ymgymerodd â chwrs blwyddyn Mewnblannu Deintyddol o dan
Athro C. Ucer. Mae hyn wedi ei alluogi i osod ac adfer
Mewnblaniadau Deintyddol ar gyfer cleifion yn y practis yn
Rhuthun ac hefyd ar gyfer cleifion a gyfeiriwyd o bractisau
deintyddol eraill.
Yn 2011 cwblhaodd Rhaglen Blwyddyn Deintyddiaeth Adferol yn
Manceinion o dan Dr. Paul Tipton. Mae’n parhau o ddarparu
triniaethau datblygedig y mae deintyddiaeth fodern yn ei gynnig i
gleifion.
Thomas Gregg BDS (Bryste)
Dentist GDC: 83449
Graddiodd Tom o Ysgol Ddeintyddol Bryste yn 2004 lle dderbyniodd
y wobr ddosbarth ar gyfer Prostheteg (Dannedd Gosod). Roedd
bywyd gwledig yn galw ac ymunodd a Deintyddfa Rhuthun i
gwblhau ei hyfforddiant galwedigaethol (VT) o dan arweiniad
Robert Winstanley. Cyfarfu Tom a’i wraig yn yr ysgol Ddeintyddol a
mae'r ddau yn byw ychydig filltiroedd tu allan i Rhuthun gyda'u
teulu ifanc.
Arweiniodd diddordeb Tom mewn deintyddiaeth cosmetig a
gwelliant gwen i astudiaethau pellach yn Ysgol Ddeintyddol ôl-
raddedig UCLAN lle y dyfarnwyd iddo Diploma mewn Deintyddiaeth
Cosmetig Adferol yn 2011 ar ôl sawl blwyddyn o astudio a
chwblhau portffolio o driniaethau sydd i’w weld yn y practis.
Mae Tom yn parhau i gynnig triniaethau I gyflawni’r wên orau posib
i’w gleifion gyda’r lleiafswm o driniaeth ymledol. Mae o wedi cael
Ôl-radd mewn Orthodonteg ym Mhrifysgol Swydd Warwick ac yn
gallu darparu amrywiaeth eang o driniaethau orthodontig o
sythwyr dannedd sefydlog i gyflinwyr (aligners) anweledig
Mae Tom yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth deintyddol ac yn
Gadeirydd / Ysgrifennydd Adran Gogledd Cymru o Gymdeithas
Ddeintyddol Prydain (undeb llafur deintyddol) ar hyn o bryd. Mae
hefyd yn cynrychioli Gogledd Cymru fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor
Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru.
Mae’r clinigwyr yn cydweithio â nyrsus deintyddol hyfforddedig sy’n cynnig cefnogaeth yn ystod eich ymweliad i helpu wneud y
profiad mor ddi-straen a phosib. Maent yn diweddaru ei hyfforddiant yn reolaidd fel eu bod mewn cysylltiad â’r technegau
diweddaraf gan gynnwys rheoli heintiau ac atal traws-heintio.
Mae’r tîm o dderbynyddion cyfeillgar sydd gennym yn sicrhau rhediad esmwyth y practis gan wneud eu gorau i’ch helpu gyda’r
apwyntiadau ac unrhyw ymholiadau.
Amdanom Ni
Mae Deintyddfa Rhuthun yn bractis annibynnol sy’n darparu gofal deintyddol breifat ac i’r GIG.
Sefydlwyd y practis yn Rhuthun dros hanner can mlynedd yn ôl a rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi gofalu am genhedlaethau o’r
un teuluoedd.
Mae gennym dîm medrus iawn o ddeintyddion yn y practis sy'n cyd-weithio gyda therapyddion a’n hylenyddion i ddarparu eich gofal
deintyddol. Ein nôd yw rhoi y cyngor gorau posib er mwyn helpu cynnal eich iechyd deintyddol.
Mae perchnogion y practis, Robert Winstanley a Tom Gregg yn datblygu'r practis yn barhaus i allu cynnig triniaeth ddeintyddol rhagorol i
gleifion mewn amgylchedd fodern.
Cyn belled ag y bo modd, byddwch yn gweld yr un deintydd bob tro i ddarparu gofal cyson, ond os oes angen triniaeth mwy arbenigol, mae
gennym ddeintyddion â ddiddordebau amrywiol arbeningol a sgiliau ychwanegol a fydd yn gallu eich helpu.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Deintyddion
Thomas Gregg BDS PGDip GDC 83449
Robert Winstanley BDS GDC 67808
Nicola Pharaoh BDS GDC 73173
Stephen Kelso BDS MFDS RCPS GDC 73558
Glesni Llwyd BDS GDC 212511
Sarah Gregg BDS GDC 103329
Lauren Williams BDS GDC 284353
Therapyddion
Heather McEvoy GDC 207456
Catherine Almond GDC 245829
Hylenyddion
Carolyn Davies GDC 5651
Kate Jones GDC 102896