Pariatur sint in sunt sit ullamco, adipisicing sed sunt non incididunt cillum eu veniam
occaecat deserunt.
1. Pam mod i angen archwiliad deintyddol?
Mae archwiliad deintyddol yn caniatáu i'ch deintydd archwilio iechyd eich
ceg. Byddant yn edrych ar eich dannedd, deintgig a'ch ceg am arwyddion
o glefyd yn ogystal a sgrinio am ganser y geg. Byddant yn nodi unrhyw
newidiadau ers eich archwiliad diwethaf ac hefyd yn holi a rhoi cyngor ar
ddeiet, ysmygu a defnydd o alcohol ac arferion glanhau dannedd. Mae’n
bwysig mynd i rafael â phroblemau cyn iddynt fynd yn fwy anodd i’w trin.
Mae pydredd dannedd a chlefyd y deintgig yn gallu cael ei hatal felly
mae’n well eu trin yn gynnar. Bydd eich deintydd yn eich cynghori pryd i
drefnu’r apwyntiad nesaf. Gall hyn amrywio gan ddibynnu ar eich risg o
ddatblygu problem ddeintyddol.
2. Beth yw manteision llenwadau cyfansawdd?
Mae llenwadau cyfansawdd yn ddi-fetal, ac yn edrych yn naturiol i gyfateb efo lliw eich dant. Mae’r deunydd yn bondio efo’r dant felly mae angen
llai o waith paratoi. Ar ddiwedd eich apwyntiad, mae’r llenwad yn cael ei osod yn llawn a’i sgleinio.
3. Pa mor ddiogel yw pelydrau-x deintyddol?
Rydym yn defnyddio cyfarpar modern a dulliau digidol i gymeryd radiographau o’r dannedd sy’n lleihau lefel yr ymbelydredd i’r unigolyn. Dim ond
pan fo angen clinigol fyddwn yn defnyddio pelydrau-x ac mae hyn yn ein galluogi i ganfod arwyddion o bydredd a haint.
4. Canllawiau ar sut i drin dant sy’n cael ei daro allan o’r geg drwy
ddamwain?
www.nhs.uk/conditions/broken-tooth/Pages/Introduction.aspx
1. Dod o hyd i’r dant.
2. Gafael yng nghoron y dant.
3. Llyfu’r dant yn lan os yw’n fudr neu ei olchi mewn dŵr.
4. Gosod y dant yn ôl yn ei safle (dannedd oedolion yn unig), peidiwch
byth ailosod dant babi.
5. Brathu ar hances boced i gadw’r dant yn ei le.
6. Ymweld â deintydd ar fyrder. Os na fedrwch roi’r dant yn ei ôl,
fedrwch ei roi mewn ychydig o laeth a gweld deintydd mor gynted a
phosib. Mae ail-blannu dant mor fuan a phosib yn fwy llwyddiannus yn y
pen draw.
Peidiwch mentro ail blannu dant babi oherwydd gall hyn ddifrodi’r dant
parhaol sy’n tyfu oddi tanodd.
5. Be ddylwn i wneud os oes gennyf argyfwng deintyddol ac yn methu cael gafael ar y deintydd?
Ers 2006, y Bwrdd Iechyd sydd a’r cyfrifoldeb o wasanaeth tu allan i oriau deintyddol.
Mewn argyfwng deintyddol, cysylltwch â Iechyd Cymru ar 111.
Mae’r achosion canlynol yn cael eu cyfri fel materion brys:
•
Gwaedu o’r geg na ellir ei atal
•
Haint llym sy’n lledaenu (Chwydd yn y gwefusau, tafod neu foch)
•
Niwed i'r dannedd neu'r ên drwy ddamwain
Gofynwyd y cwestiynau yma i Joy, Heather a Becky, sef ein hylenydd a’n therapyddion.
6. Beth yw therapydd deintyddol?
Mae therapydd deintyddol yn gweithio ochr yn ochr â'r deintydd i gynnal triniaeth ddeintyddol arferol fel llenwadau dan bresgripsiwn
deintydd. Nid ydynt yn gallu asesu, ond gallwch eu gweld yn uniongyrchol ar gyfer ymweliadau hylendid arferol.
7. Rwy’n glanhau fy nannedd ddwywaith y dydd. Beth all hylenydd wneud hynny na alla i?
Mae glanhau proffesiynol rheolaidd yn cael gwared o blac a thartar o'ch dannedd a
deintgig.
Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut i ofalu am eich dannedd a'r deintgig adref, gan
ddangos y technegau gorau a rhoi cyngor ar ddiet.
Gall helpu gydag unrhyw anawsterau sy’n codi. Mae ymweliad at yr hylennydd yn cael
ei deilwra I’r unigolyn gan nodi problemau fel clefyd y deintgig, sgriffiad drwy or-
frwsio’r dannedd, erydiad asid ac yn y blaen.
8. Mae yna ddewis helaeth o bastiau dannedd. Sut ydw i’n
penderfynu pa un i ddewis?
Mae'r rhan fwyaf o bastiau dannedd yr un mor effeithiol a’i gilydd i
gynnal iechyd deintyddol eich ceg. Mae rhai wedi eu datblygu i fynd I’r
afael a phroblemau penodol fel sensitifrwydd, gwynnu, rheoli tartar.
Rydym yn argymell past dannedd sy'n cynnwys fflworid ac mae’r lefelau
yn amrywio.
•
Babis newyddanedig i 3 mis oed 1000ppm - taeniad ar y brwsh
dannedd yn unig.
•
3 i 6 mlwydd oed - past dannedd oedolion ond swm bach, maint
pysen, ac annog y plentyn i’w boeri allan
•
Oedolion 1450-1500 ppm - maint pysen
Dewiswch bast dannedd byddwch yn mwynhau ei ddefnyddio ddwywaith
y dydd sy'n mynd i’r afael â'ch anghenion penodol.
Cofiwch boeri nid oes angen rinsio!
9. Beth yw plac a pha niwed mae o’n ei wneud?
Ffilm ludiog yw plac sy’n adeiladu i fyny ar eich dannedd. Mae’n
cynnwys bacteria sy’n achosi llid y deintgig.
Os caiff ei adael, yna mae’n caledu a ffurfio tartar sy’n arwain at
glefyd y deintgig a cholli dannedd yn y pen draw. Mae plac hefyd yn
arwain at bydredd dannedd ac anadl drwg.
10. Ydi brwsys dannedd trydan yn well na rhai llaw cyffredin?
Mae astudiaethau yn profi bod brwsys trydanol yn tynnu 11% yn fwy o
blac na brwsh llaw ac yn lleihau clefyd y deintgig yn sylweddol.
Mae brwsys trydanol Oral B Braun wedi cael eu profi i wella brwsio a
rydym yn gweld hyn yn rheolaidd gyda chleifion sy'n eu defnyddio.
Mae pen y brws yn llai ac yn cylchdroi ac mae hyn yn cael gwared o’r
plac yn haws ac yn fwy effeithiol. Mae'r dechneg gywir yn bwysig -
gofynnwch i'ch hylenydd ddangos i chi.